Ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn gwella’r cymorth ar gyfer disgyblion ag anableddau

Rhannu |

16 Mehefin 2011

Ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn gwella’r cymorth ar gyfer disgyblion ag anableddau

Mae gwelliant amlwg wedi bod yn narpariaeth y cymorth a’r gefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion ag anableddau mewn ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion yn ôl Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, Adolygiad o Gynlluniau Cydraddoldeb Anabledd ac arferion mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, dywed yr arolygiaeth fod ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn gwella wrth fynd i’r afael â chydraddoldeb anabledd. Ond, mae ysgolion arbennig yn well na’r rhan fwyaf o ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion wrth gael gwared ar y rhwystrau i ddisgyblion ag anableddau.

Yn gyffredinol, mae tystiolaeth yn dangos bod gan reolwyr agwedd gadarnhaol at hyrwyddo cydraddoldeb anabledd. Mae rheolwyr yn deall beth sydd ei angen i fodloni’r gofynion statudol perthnasol.

Roedd bron pob un o’r ysgolion yr ymwelwyd â nhw wedi cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Anabledd cyfoes ar eu gwefan, ynghyd â chynlluniau gweithredu cysylltiedig.

Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn, “Mae cynnydd mawr wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn y ffordd y mae ysgolion prif ffrwd ac unedau cyfeirio disgyblion wedi gwella eu cymorth ar gyfer disgyblion ag anableddau, er bod y cynnydd mwyaf wedi bod mewn ysgolion arbennig.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi dilyn yr arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac wedi datblygu cyfleusterau ac arferion gwell sy’n gwella profiad dyddiol disgyblion ag anableddau.”

Fel rhan o’r arolwg, cyfwelodd arolygwyr â rhieni a nifer o ddisgyblion ag anableddau. Mae’r adroddiad yn cynnwys llawer o astudiaethau achos bywiog sy’n dangos pa mor gadarnhaol oedd disgyblion a’r rhan fwyaf o rieni ynglŷn â’r hyn yr oedd eu hysgol wedi’i wneud i fodloni anghenion eu disgyblion.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi rhai agweddau ar gyfer gwaith pellach ac yn rhestru rhai argymhellion ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

I ddarllen mwy am y canfyddiadau hyn, cliciwch yma i gael copi o’r adroddiad llawn.

- DIWEDD-


I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Charlotte Bram, Gina Carrington
Y Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446454


Nodiadau i olygyddion

  • Mae copi o’r adroddiad llawn i’w weld ar-lein yma.
  • Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998). Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.

I gael mwy o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef: www.estyn.gov.uk