Hoffech chi gael gwybod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud? Efallai bod eich ateb yn ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml…
C. Beth mae Estyn yn gwneud?
Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:
- ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol;
- ysgolion cynradd;
- ysgolion uwchradd;
- ysgolion arbennig;
- unedau cyfeirio disgyblion;
- ysgolion annibynnol;
- addysg bellach;
- colegau arbenigol annibynnol;
- dysgu oedolion yn y gymuned;
- gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc;
- addysg a hyfforddiant athrawon;
- dysgu yn y gwaith;
- cwmnïau gyrfaoedd; a
- dysgu troseddwyr.
Mae Estyn hefyd:
- yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru; ac yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.
C. Beth dydy Estyn DDIM yn ei arolygu yng Nghymru?
Nid yw Estyn yn arolygu addysg mewn prifysgolion, ar wahân i gyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon.
C. Faint o arolygiadau y mae Estyn yn eu cynnal bob blwyddyn?
Yn ystod 2010-2011, disgwylir y bydd Estyn yn cynnal 453 o arolygiadau. Ar hyn o bryd, mae contractwyr allanol yn gweithio gydag Estyn i arolygu ysgolion yng Nghymru. O Fedi 2010, dechreuodd Estyn gynnal pob arolygiad yn fewnol, gyda’r bwriad o roi’r gorau i ddefnyddio contractwyr erbyn 2012.
C. Pa mor hir y mae arolygiad yn para?
Ar gyfartaledd, bydd ein timau arolygu yn treulio rhwng 2 a 5 diwrnod yn y sefydliad y maent yn ei arolygu. Mae faint o amser y maent yn ei dreulio ar y safle yn dibynnu ar faint o ddysgwyr sydd yn y sefydliad hwnnw. Gallwch ddysgu mwy am yr hyn y mae ein harolygwyr yn chwilio amdano pan fyddant yn arolygu gwahanol ddarparwyr addysg a hyfforddiant yn yr adran ar arweiniad arolygu.
C. Pa ddeddfwriaeth sy’n rhoi pwerau i Estyn?
Mae Estyn yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae ystod o ddeddfwriaeth arall yn rhoi pwerau i ni mewn perthynas â gwahanol sectorau. Mae hyn yn cynnwys Deddf Dysgu a Sgiliau 2000, Deddf Addysg 2005 a Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006.
C. A yw Estyn yn annibynnol?
Mae Estyn yn annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru.
C. Faint o’r gyllideb addysg sy’n mynd i Estyn?
Yn 2010-2011, dyrannwyd cyfanswm refeniw o £14,055,000 i Estyn, sef 0.55% yn unig o gyllideb addysg Llywodraeth Cymru. I ddarllen mwy am y ffordd y mae Estyn yn dyrannu ei gyllideb – darllenwch ein Cynllun Blynyddol.
C. Pa mor aml y caiff ysgolion neu ddarparwyr addysg a hyfforddiant eu harolygu?
Caiff pob darparwr addysg a hyfforddiant ei arolygu o leiaf unwaith bob 6 blynedd. Os byddwn yn gweld bod angen mwy o gymorth ar y darparwr addysg neu hyfforddiant i wella’r addysg neu’r hyfforddiant y mae’n ei ddarparu, byddwn yn ymweld â nhw bob blwyddyn i’w cefnogi, nes ein bod yn hapus eu bod yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i’w dysgwyr. Mae gennym hefyd y pŵer i ymweld ag unrhyw ddarparwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn ddirybudd os ydym yn pryderu.
C. Sut ydw i’n cael gwybod am fy ysgolion lleol?
I gael gwybodaeth gyffredinol am eich ysgol, dylech gysylltu â nhw yn uniongyrchol. I chwilio am adroddiad arolygu, cliciwch yma.
C. Beth ddylwn i wneud os ydw i’n pryderu am fy ysgol?
Os bydd gennych gŵyn am ysgol neu ddarparwr addysg a hyfforddiant arall, dylech godi eich pryderon gyda’r darparwr yn y lle cyntaf. I gael gwybod mwy am roi adborth i Estyn ar ein gwaith, edrychwch ar ein Taflen Adborth a Chwynion.
C. Beth ddylwn i wneud os ydw i am roi gwybod am fater yn ymwneud ag amddiffyn plant?
Dolen gyswllt i’n Taflen ar Ddiogelu
C. Sut ydw i’n gwneud cwyn am Estyn?
Hoffem glywed eich barn am ein gwaith a sut mae’n effeithio arnoch chi. Bydd eich awgrymiadau, eich canmoliaeth a’ch cwynion yn ein helpu ni i gydnabod gwaith o ansawdd uchel yn ogystal â gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Dolen gyswllt i’r Daflen Adborth a Chwynion
C. Pam nad yw pob adroddiad arolygu ar gael yn Gymraeg?
Cyhoeddir adroddiadau yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Estyn. Bydd adroddiadau arolygu sefydliadau unigol yn cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog pan fydd y darparwr addysg a hyfforddiant yn gofyn, neu, yn achos ysgolion neu ddarparwyr awdurdod lleol, pan fydd hyn yn cyd-fynd â pholisi’r awdurdod lleol. Pan na ofynnir am adroddiad dwyieithog, bydd adroddiadau ar sefydliadau unigol yn ymddangos yn Saesneg yn unig.
C. Ble mae swyddfeydd Estyn?
Mae swyddfa Estyn yng Nghaerdydd. I gael gwybodaeth a chyfarwyddiadau, cliciwch yma.
C. Faint o bobl sy’n gweithio i Estyn?
Mae tua chant o bobl yn gweithio i Estyn. Mae hyn yn cynnwys Arolygwyr Ei Mawrhydi (AEM) a staff cymorth arolygu.
