Arolygiadau Ardal
Cynhelir arolygiadau arolygiadau ardal yn unol ag adran 83 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (y Ddeddf). Mae'n nodi os yw'r
Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddi wneud hynny, rhaid i'r Prif Arolygydd yng Nghymru arolygu;
(a) ansawdd ac argaeledd disgrifiad penodol o addysg neu hyfforddiant,
mewn ardal benodol yng Nghymru, ar gyfer personau sy'n 16 oed neu'n hŷn;1
(b) y safonau a gyflawnir gan y rheiny sy'n derbyn yr addysg neu'r hyfforddiant; ac
(c) a yw'r adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer y rheiny sy'n darparu'r addysg a'r
hyfforddiant yn cael eu rheoli'n effeithlon a'u defnyddio mewn ffordd sy'n darparu gwerth am arian.
Gall y Prif Arolygydd yng Nghymru gynnal arolygiad o'r fath heb i neb ofyn iddi wneud hynny.
Bydd arolygwyr yn defnyddio Fframwaith Cyffredin Estyn ar gyfer Arolygu wedi'i
atodi gan yr arweiniad perthnasol sy'n ymwneud â'r sectorau sy'n cael eu harolygu ac unrhyw
arweiniad penodol ychwanegol fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn cael ei atodi lle bydd angen
i ystyried y materion penodol sy'n ymwneud â'r arolygiad, gan gynnwys y strategaeth ar gyfer
addysg a hyfforddiant yn yr ardal. Bydd arolygwyr yn gwerthuso pa mor effeithiol yw'r strategaeth
leol ar gyfer addysg a hyfforddiant wrth godi lefelau cyflawniad,
gan sicrhau llwyddiant dysgwyr a chynyddu cyfranogiad dysgwyr.
1 Newidiwyd ar ôl hynny i 14 a throsodd yn Adran 178, Deddf Addysg 2002.
Clicwch am:
Holiadur Ôl-Arolygu
Arweiniad arolygiadau
Adroddiadau Arolygiadau Ardal
Cyhoeddiadau perthnasol i Arolygiadau Ardal
Amserlen Arolygiadau Ardal
|