Darpariaeth blynyddoedd cynnar yn y sector na chynhelir
Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998 sy'n rheoli'r gwaith o arolygu addysg feithrin na chynhelir gan ddarparwyr a gaiff eu cynnwys yng Nghynlluniau Gofal Plant a Datblygiad Blynyddoedd Cynnar awdurdodau lleol. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod y Prif Arolygydd yn hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch:
-
ansawdd a safonau addysg feithrin; a
-
datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol plant y darperir addysg feithrin ar eu cyfer.
Ar hyn o bryd, caiff y lleoliadau hyn eu harolygu mewn cylch chwe mlynedd a gychwynnodd ym 1999. Wrth gynnal arolygiadau, mae'n ofynnol i arolygwyr addysg feithrin cofrestredig gydymffurfio â Fframwaith Estyn ar gyfer Arolygu'r Ddarpariaeth Addysgol i Blant Cyn Oed Ysgol Gorfodol.
Mae Estyn yn gyfrifol am:
-
hyfforddi a chofrestru arolygwyr addysg feithrin;
-
monitro ansawdd arolygiadau ac adroddiadau arolygiadau; a
-
chadarnhau arfarniadau pan ystyrir bod ansawdd y ddarpariaeth addysgol lawer yn is na'r hyn sy'n angenrheidiol.
Cliciwch am:
Holiadur Ôl-Arolygu
Canllawiau arolygu
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)
Ffurflen Arfarnu Gwers (FfAG)
Ffurflen Arfarnu Gwers (FfAG)
Ffurflen Arfarnu Gwers Ar gyfer arolygiadau byr a gwersi lle nad yw safonau mewn pynciau yn cael eu harfarnu
Ffurflen Arfarnu Gwers Ar gyfer arolygiadau byr a gwersi lle nad yw safonau mewn pynciau yn cael eu harfarnu
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad
Adroddiadau arolygu blynyddoedd cynnar
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar
Amserlen arolygu blynyddoedd cynnar
Trefniadau Estyn ar gyfer sicrhau ansawdd gwaith wedi’i gontractio allan mewn perthynas ag arolygiadau ysgolion
|