Addysg bellach
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o sefydliadau addysg bellach sy'n cael eu cyllido gan y Cyngor Cenedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ELWa) yn unol â rheolau Deddf Dysgu a Sgiliau 2000.
Mae arolygwyr EM dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac/neu arolygwyr ychwanegol yn cynnal arolygiadau o sefydliadau addysg bellach. Maent yn gweithio'n agos gydag aseswyr cyfoed o sefydliadau addysg bellach eraill yng Nghymru, sy'n cymryd rhan lawn yn y broses arolygu. Mae enwebai o'r sefydliad hefyd yn aelod o'r tîm arolygu.
Ers ymgorffori sefydliadau addysg bellach ym 1992, cynhaliwyd dau gylch arolygu. Daeth yr ail gylch i ben yng Ngorffennaf 2002. Bydd y bwlch o ddwy flynedd rhwng 2002 a dechrau cylch newydd yn gyffredin ar draws Estyn, ac yn darparu cyfle i ganolbwyntio ar gynnydd mewn gwella ansawdd a lledaenu arfer da. Bydd y 'cylch byr' yma hefyd yn darparu cyfle da i brofi'r fframwaith arolygu cyffredin newydd. Bydd 2004-05 yn flwyddyn olaf y 'cylch byr' ac yn flwyddyn gyntaf y cylch 2004-2010.
Bydd yr holl golegau addysg bellach yn derbyn arolygiad o'u sefydliad yn ystod y cyfnod hwn ond mae pob arolygiad yn cael ei addasu ar gyfer amgylchiadau arbennig pob sefydliad. Ceir pwyslais ar unodi arfer da ac yr ydym yn ystyried lefel y risg sy'n cael ei gyflwyno gan bob sefydliad.
Oherwydd y trefniadau a oedd yn bodoli cyn ymgorffori Deddf Dysgu a Sgiliau 2000, mae'r adroddiadau a gyhoeddwyd cyn 1 Ebrill 2001 i'w gweld ar wefan Cyngor cyllido addysg bellach cymru (FEFCW).
Cliciwch am:
Holiadur Ôl-Arolygu
Cyfarwyddiadau arolygu, gan gynnwys y Llawlyfr ar gyfer arolygu Addysg Bellach
Adroddiadau arolygu addysg bellach
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer addysg bellach
Amserlen arolygu addysg bellach
|