*
Logo Esytn
*
skip navigationTudalen Flaen
*
*
*Chwilio *
*
*
* Am Estyn
*
* Trefniadau arolygu
*
* Amserlen arolygiadau
*
* Adroddiadau arolygiadau
*
* Datganiadau i'r wasg
*
* Cyhoeddiadau
*
 
*
English | Beth sy'n Newydd? | Cysylltwch â ni*
*

Trefniadau arolygu

*

Ysgolion annibynnol

Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o ysgolion arbennig, gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u cymeradwyo i dderbyn disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA), o dan Adran 163 Deddf Addysg 2002. Dan y Ddeddf hon, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ei rôl fel yr awdurdod cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru, ar unrhyw adeg:

  • ofyn i’r Prif Arolygydd arolygu unrhyw ysgol gofrestredig, neu sicrhau y’i harolygir gan un neu fwy o arolygwyr arwain; neu
  • drefnu arolygu unrhyw ysgol gofrestredig gan gorff a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru.

Arolygir pob ysgol annibynnol gan Arolygwyr Ei Mawrhydi o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Mae Adran 163 Deddf 2002 yn dweud y dylai arolygiad o ysgol annibynnol fod yn gysylltiedig â’r:

  • cyfryw safonau ysgolion annibynnol, ar adeg yr arolygiad, a nodir gan yr awdurdod cofrestru mewn perthynas ag unrhyw gategori o ysgol y mae’r ysgol honno yn sythrio iddo; neu
  • os yw’r awdurdod yn pennu hynny, cyfryw safonau ysgolion annibynnol y gall yr awdurdod eu nodi mewn perthynas â’r ysgol honno.

Mae Adran 157 Deddf 2002 yn dweud y dylai safonau ysgolion annibynnol fod yn gysylltiedig ag:

a. ansawdd yr addysg a ddarperir;
b. datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion;
c. lles, iechyd a diogelwch y disgyblion;
d. addasrwydd y perchnogion a’r staff;
e. y safle a’r adeiladau;
f. darpariaeth gwybodaeth yr ysgol; a’r
g. ffordd y mae’r ysgol yn delio â chwynion.

Wrth gynnal yr arolygiadau hyn, mae gofyn i Arolygwyr Ei Mawrhydi gydymffurfio â Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru a’r Arweiniad ar Arolygu Ysgolion Annibynnol.

Cliciwch am:

Holiadur Ôl-ArolyguPDF

Canllawiau arolygu

Adroddiadau arolygu ysgolion annibynnol

Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer addysg gynradd

Amserlen arolygu ysgolion annibynnol

*
    Hawlfraint | Telerau ac Amodau*