Trefniadau arolygu
Awdurdodau addysg lleol (AALlau)
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o awdurdodau addysg lleol dan Adran 38 Deddf Addysg 1997. Mae hyn yn rhoi'r pðer i'r Prif Arolygydd drefnu bod unrhyw awdurdod addysg lleol (AALl) yn cael ei arolygu. Mae'n mynnu bod Estyn yn arolygu unrhyw AALl os yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gofyn iddo wneud hynny.
Mae arolygiadau awdurdodau addysg lleol Estyn yn cydymffurfio â Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ac yn ffurfio rhan ohoni, fel y nodir yn yr arweiniad statudol ar gyfer awdurdodau lleol: Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18/2002 (Mehefin 2002). Mae’r Comisiwn Archwilio yn cydweithredu gydag Estyn ar arolygiadau AALl yn unol ag Adran 41 Deddf Addysg 1997
Ar hyn o bryd, bwriad Estyn yw arolygu’r rhan fwyaf o AALlau unwaith bob blwyddyn ariannol. Mae pob arolygiad AALl fel arfer yn canolbwyntio ar o leiaf un maes gweithgaredd mawr sydd eisoes wedi bod yn destun proses hunan-arfarnu gan yr AALl. Yn ogystal, gall y Prif Arolygydd drefnu bod AALl yn cael arolygiad llawn unrhyw amser.
Cliciwch am:
Holiadur Ôl-Arolygu
Arweiniad arolygiadau
Adroddiadau arolygiadau awdurdodau addysg lleol
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer awdurdodau addysg lleol
Amserlen arolygu awdurdodau addysg lleol
|