Ysgolion uwchradd
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o ysgolion uwchradd a gynhelir, dan Adran 10 Deddf Arolygu Ysgolion 1996. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod y Prif Arolygydd yn cadw cofrestr o arolygwyr annibynnol (arolygwyr cofrestredig, tîm a lleyg) a ystyrir yn addas ganddi i gynnal yr arolygiadau hyn. Dan y Ddeddf, gall y prif Arolygydd gyfarwyddo Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi (AEM) hefyd i arolygu ysgolion, lle bydd angen.
Caiff pob ysgol ei harolygu o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Mae'r arolygiadau hyn yn delio â phob agwedd ar ddarpariaeth ysgol, ac eithrio addysg enwadol a chynnwys addoli ar y cyd yn yr ysgolion gwirfoddol hynny a nodir yn Adran 23 y Ddeddf. Swyddogaeth arolygiad dan Adran 10 y Ddeddf yw adrodd ar:
-
y safonau addysgol a gyflawnir yn yr ysgol;
-
ansawdd yr addysg a ddarperir gan ysgol;
-
ansawdd yr arweinyddiaeth yn yr ysgol a’r rheolaeth ohoni, gan gynnwys a yw'r adnoddau ariannol a ddarperir i'r ysgol yn cael eu rheoli mewn ffordd effeithlon neu beidio;
-
datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn yr ysgol.
Wrth gynnal yr arolygiadau hyn, mae'n ofynnol i arolygwyr cofrestredig gydymffurfio â Fframwaith Arolygu Cyffredin ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ac Arweiniad ar Arolygu Ysgolion Uwchradd Estyn.
Mae AEM yn monitro ansawdd arolygiadau Adran 10 ar ran y Prif Arolygydd.
Cliciwch am:
Holiadur Ôl-Arolygu
Adroddiad Hunanarfarnu
Canllawiau arolygu
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)
Ffurflen Arfarnu Gwers (FfAG)
Ffurflen Arfarnu Gwers (FfAG)
Ffurflen Arfarnu Gwers Ar gyfer arolygiadau byr a gwersi lle nad yw safonau mewn pynciau yn cael eu harfarnu
Ffurflen Arfarnu Gwers Ar gyfer arolygiadau byr a gwersi lle nad yw safonau mewn pynciau yn cael eu harfarnu
Dau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad
Adroddiadau arolygu ysgolion uwchradd
Holiadur Profiad - Arolygwyr Annibynnol
Rhaglen yr Aseswyr Cymheiriaid - Memorandwm o Ddealltwriaeth Rhwng Estyn Ac (Ysgol) A'r (Aseswyr Cymheiriaid)
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer addysg uwchradd
Amserlen arolygu ysgolion uwchradd
Trefniadau Estyn ar gyfer sicrhau ansawdd gwaith wedi’i gontractio allan mewn perthynas ag arolygiadau ysgolion
|