*
Logo Esytn
*
skip navigationTudalen Flaen
*
*
*Chwilio *
*
*
* Am Estyn
*
* Trefniadau arolygu
*
* Amserlen arolygiadau
*
* Adroddiadau arolygiadau
*
* Datganiadau i'r wasg
*
* Cyhoeddiadau
*
 
*
English | Beth sy'n Newydd? | Cysylltwch â ni*
*

Trefniadau arolygu

*

Addysg a hyfforddiant i athrawon

Mae Estyn yn arolygu hyfforddiant cychwynnol i athrawon o dan dermau Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. O dan Adran 20 (1), gall y Prif Arolygydd arolygu ac adrodd ar unrhyw hyfforddiant cychwynnol neu hyfforddiant mewn swydd i athrawon a ddarperir gan y sefydliad perthnasol yng Nghymru. Rydym yn arolygu hyfforddiant sy'n arwain at Statws Athro Cymwys, gan gynnwys yr hyn a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch gyda'u hysgolion partner. Mae Cyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru (bellach yn rhan o ELWa) yn seilio achrediadau sefydliadau hyfforddiant cychwynnol i athrawon ar dystiolaeth ein harolygiadau. Rydym yn arolygu sefydliadau hyfforddiant cychwynnol i athrawon unwaith pob pum mlynedd. Mae'r timau arolygu'n cynnwys Arolygwyr Ei Mawrhydi ac arolygwyr ychwanegol hyfforddedig, sy'n hyfforddwyr athrawon profiadol. Rydym yn adrodd ar safon addysgu'r hyfforddeion, ar ansawdd yr hyfforddiant ac ar reoli. Safon addysgu'r hyfforddeion yw llinyn mesur allweddol ansawdd yr hyfforddiant a'r asesu, ac effeithiolrwydd yr arweinwyr a'r rheolwyr yn unol â'r fframwaith arolygu cyffredin a gynigir. Mae meini prawf yr arolygiadau'n seiliedig ar ofynion statudol manwl ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon. Mae Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 13/98 yn nodi:

  • gofynion ar gyfer sefydliadau hyfforddiant cychwynnol i athrawon, megis y gofyniad am bartneriaeth ag ysgolion;

  • safonau y mae'n rhaid i hyfforddeion eu bodloni er mwyn ennill Statws Athro Cymwys; a

  • Chwricwlwm Cenedlaethol hyfforddiant cychwynnol i athrawon ar gyfer Saesneg, Cymraeg a mathemateg cynradd.

Cliciwch am:

Holiadur Ôl-ArolyguPDF

Cyfarwyddiadau arolygu, gan gynnwys y llawlyfr ar gyfer arolygu addysg a hyfforddiant i athrawon

Adroddiadau arolygu addysg a hyfforddiant i athrawon

Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer addysg a hyfforddiant i athrawon

Amserlen arolygu addysg a hyfforddiant i athrawon

*
    Hawlfraint | Telerau ac Amodau*