Dysgu yn y Gwaith
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o hyfforddiant galwedigaethol a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy'r Cyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn cynnal y rhain dan adran 75 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae oddeutu 200 o ddarparwyr yng Nghymru. Cychwynnodd y cylch arolygu pum mlynedd cyntaf ym mis Ebrill 1999 a orffennwyd ym mis Awst 2004. Bydd cylch arolygu chwe blynedd newydd yn cychwyn ym mis Medi 2004
Rydym yn arolygu'r ddarpariaeth gan ddefnyddio Fframwaith Arolygu Cyffredinol Estyn ac rydym wedi cyhoeddi arweiniad ar sut y cymhwysir hyn i hyfforddiant yn y qwaith.
Yn adroddiad yr arolygiad, rydym yn dyfarnu graddau ar raddfa o 1-5, yn seiliedig ar y cydbwysedd rhwng nodweddion da y ddarpariaeth a'i diffygion.
Mae gan y sefydliad a arolygir y dewis o enwebu aelod o'i staff i ymuno â'r tîm arolygu. Pan fydd gweithgarwch darparwr hyfforddiant yn digwydd yng Nghymru ac yn Lloegr, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Arolygiaeth Dysg i Oedolion (ALI) a chyhoeddir yr adroddiad ar ein gwefan ni ac ar wefan ALI. . Oherwydd y trefniadau a oedd yn bodoli cyn ymgorffori Deddf Dysgu a Sgiliau 2000, mae adroddiadau a gyhoeddwyd cyn 31 Mawrth 2001 i'w gweld ar Wefan y Cynulliad Cenedlaethol.
Cliciwch am:
Holiadur Ôl-Arolygu
Canllawiau arolygu
Adroddiadau arolygu hyfforddiant yn y gwaith
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith
Amserlen arolygu hyfforddiant yn y gwaith
|