*
Logo Esytn
*
skip navigationTudalen Flaen
*
*
*Chwilio *
*
*
* Am Estyn
*
* Trefniadau arolygu
*
* Amserlen arolygiadau
*
* Adroddiadau arolygiadau
*
* Datganiadau i'r wasg
*
* Cyhoeddiadau
*
 
*
English | Beth sy'n Newydd? | Cysylltwch â ni*
*

Trefniadau arolygu

*

Gwasanaethau cynhaliaeth i ieuenctid

Mae Adran 123 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cynulliad Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid i bob unigolyn rhwng 11 a 25 oed; i sicrhau'r ddarpariaeth gan eraill a chymryd rhan yn narpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid gydag eraill. Mae'r adran yn mynd ymlaen i ddiffinio "gwasanaethau cymorth ieuenctid".

Nodir sail statudol y broses ar gyfer arolygu'r gwasanaethau ieuenctid hyn yng Nghymru yn Adrannau 127 a 128 y Ddeddf. Mae Adran 127 yn nodi y dylai Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch gwasanaethau cymorth ieuenctid, a phan fo'r Cynulliad yn gwneud cais, arolygu ac adrodd ar ddarpariaeth gwasanaethau o'r fath. Oherwydd y bydd gan awdurdodau lleol swyddogaeth bwysig o ran darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid yng Nghymru yn unol ag Adran 12 y Ddeddf, gellir cynnal rhai arolygiadau o'r gwasanaethau hyn ochr yn ochr ag arolygiadau Gwerth Gorau awdurdodau addysg lleol.

Bob blwyddyn, mae Estyn yn arolygu sampl o wasanaethau ieuenctid y sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol ac yn cynnal arolygon o agweddau ar y ddarpariaeth yn ogystal â materion sy'n cael blaenoriaeth mewn polisïau. Yn ogystal â'r rhain, mae Estyn yn gwneud gwaith monitro rheolaidd er mwyn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch tueddiadau a newidiadau i’r patrwm o ddarparu adnoddau, rheoli a threfnu gwasanaethau lleol. Pwrpas yr arolygiad hefyd yw darparu gwybodaeth i ddarparwyr am ansawdd y gwasanaethau i'w hannog i ddatblygu eu cryfderau a gwella'u diffygion, hysbysu'r cyhoedd a lledaenu gwybodaeth a rhoi cyhoeddusrwydd i enghreifftiau o arfer da ledled Cymru.

Cynhelir pob arolygiad yn unol â Fframwaith Arolygu Cyffredin ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ac Arweiniad ar Arolygu’r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Estyn.

Cliciwch am:

Holiadur Ôl-ArolyguPDF

Canllawiau arolygu

Adroddiadau arolygu gwasanaethau cynhaliaeth i ieuenctid

Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer gwasanaethau cynhaliaeth i ieuenctid

Amserlen arolygu gwasanaethau cynhaliaeth i ieuenctid

*
    Hawlfraint | Telerau ac Amodau*